Banc Bwyd y Gadeirlan Bangor
Bangor Cathedral Foodbank
Ar agor rhwng 2 a 3 yp ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener.
Open 2-3pm every Monday, Wednesday and Friday.
For referrals, please contact Lesley at lesley.beckton@yahoo.co.uk
Cysylltwch â’ch gweithiwr cefnogol, os oes gennych un, (trwy alwad ffôn, neges destun neu ebost) a gofynnwch iddynt i’ch cyfeirio atom.
Bydd y gweithiwr cefnogol wedyn yn eich cyfeirio trwy ddanfon ebost atom:
Cewch ddod i gasglu eich bwyd o Ty Deiniol neu gall eich gweithiwr cefnogol wneud hynny trosoch.
Os nad oes gennych weithiwr cefnogol, cysylltwch ag unrhyw un o’r asiantaethau isod (trwy alwad ffôn neu ebost) i ofyn iddynt eich cyfeirio atom.
Bydd yr asiantaeth wedyn yn eich cyfeirio trwy ddanfon ebost atom:
Cewch ddod i gasglu eich bwyd o Ty Deiniol neu gall gweithiwr o’r asiantaeth wneud hynny trosoch
Os nad ydych yn medru cysylltu gydag unrhyw un o’r asiantaethau, dewch i’r Banc Bwyd yn ystod ein oriau agor
Gallwn roi pecyn bychan argyfwng o fwyd i chi (gwerth deuddydd)
NODWCH OS GWELWCH YN DDA mai dim ond DWYWAITH cewch ofyn am becyn argyfwng: ar ôl hynny rhaid i chi gael eich cyfeirio.
Gallwch ofyn am ffurflen gyfeirio gan eich MEDDYG TEULU, YMWELYDD IECHYD, NYRS YN Y GYMUNED, GWEITHIWR CYMDEITHASOL, CPN neu GYNGHORYDD LLEOL.
Cliciwch isod am ganllawiau cyfeirio i’w lawrlwytho.