top of page

SUT MAE GWNEUD CYFRANIAD ARIANNOL?

ukflag.png

Cefnogir Banc Bwyd y Gadeirlan trwy gyfraniadau hael unigolion, ysgolion, busnesau, eglwysi, ac elusennau eraill. 

Os hoffech wneud rhodd ariannol, y ffordd symlaf yw ar-lein:
https://churchinwales.org.uk/en/clergy-and-members/gift-direct/start-donating-your-church-or-parish/    

(Yn y blwch opsiynau Buddiolwr, dewiswch “Bro Deiniol, Banc Bwyd Cadeirlan Sant, Bangor/St Deiniol’s Cathedral Food Bank, Bangor")

Gallwch hefyd gyfrannu trwy drosglwyddiad banc, arian parod neu siec.

Mae manylion banc fel a ganlyn:

Enw: Dean & Chapter of Bangor Cathedral
Rhif Didoli: 30 90 43
Rhif Cyfrif: 00545016

Cyfeirnod: Banc Bwyd

Ysgrifennwch “Rhodd Banc Bwyd” ar gefn sieciau, a marciwch yr amlen

‘i sylw Rob Jones’.

money donation.jpeg

SUT MAE CYFRANNU BWYD?

Mae’r Banc Bwyd yn dibynnu’n llwyr ar gyfryniadau ac rydym wastad yn hynod ddiolchgar am unrhyw gyfraniadau o fwyd. Dewch a chyfraniadau i Ty Deiniol (Canolfan yr Esgobaeth) gerllaw’r Gadeirlan ar ddyddiau Llun, Mercher neu Gwener rhwng 1 a 3 yp. 

Gweler isod y mathau o fwydydd fyddai’n ddefnyddiol i chi eu cyfrannu.

IMG_0858.jpeg

Prydau cig mewn tun

IMG_0867.jpeg

Ffrwyth mewn tun (yn enwedig eirin gwlanog)

IMG_0859.jpeg

Prydau cyw iâr mewn tun

IMG_0853.jpeg

Cig fel ham neu corn beef a

tiwna mewn tun

IMG_0852.jpeg

Tatws a llysiau mewn tun

IMG_0865.jpeg

Pethau ymolchi

IMG_0866.jpeg

Llefrith UHT a sudd oren

IMG_4273.JPG

Coffi cyflym (dim coffi heb gaffîn) 

Rydym hefyd yn gwerthfawrogi cyfraniadau o ffâ pob, reis, siwgr, pasta tun, saws pasta, tomatos tun, cwstard tun, pwdin reis tun, jam, grawnfwyd, cewynnau, rholiau toiled a llefrith powdr.

Cliciwch yma i lawrlwytho rhestr siopa.

GWIRIWCH OS GWELWCH YN DDA NAD YDYCH YN CYFRANNU BWYDYDD SYDD Â’R DYDDIAD WEDI MYND HEIBIO ARNYNT!

expired.jpg
bottom of page